قُلْتُ لَمَّا غَابَ عَنِّي
Dywedais Pan Ddiflannodd Oddi Wrthyf
Cy
قُلْتُ لَمَّا غَابَ عَنِّي
نُورُ مَرَاكَ الْمَصُون
Dywedais, pan ddiflannodd oddi wrthyf
oleuni dy harddwch gwarchodedig
شَفَّنِي وَاللَّهِ سُقْمٌ
فِيهِ قَدْ ذُقْتُ الْمَنُونَ
Myn Allah, fe’m treuliodd cystudd
lle profais angau ei hunan
وَعُيُونِي مِنْ نَحِيبٍ
جَارِيَاتٌ كَالْعُيُون
Ac y mae fy llygaid, o chwerw wylo
yn llifeirio fel ffynhonnau rhedegog
وَجُفُونِي مَا كَفَاهَا
مَا جَرَى حَتَّى جَفُون
Nid oedd fy amrantau’n fodlon ar y dagrau a lifodd
hyd nes iddynt hwythau sychu
هَامَ قَلْبِي زَادَ وَجْدِي
فَمَتَى وَصْلَكْ يَكُونُ
Crwydro mae fy nghalon mewn serch, cynnyddu mae fy hiraeth
pryd, felly, y bydd ein haduniad?
غَابَ عَنْ عَيْنِي ضِيَاهَا
يَا قَمَرَ دَارِي الْعُيُون
Diflannodd y llewyrch o’m golwg
O Leuad hardd, rho gysur i’r llygaid hyn