صَفَتِ النَّظْرَهْ
Eglur oedd y weledigaeth
Cy
Cy
صَفَتِ النَّظْرَهْ طَابَتِ الْحَضْرَةْ
جَاءَتِ الْبُشْرَى لِأَهْل اللهِ
Clir oedd y weledigaeth, melysodd y Gynulleidfa
Daeth y llawen chwedl i bobl Allah
قَامُوْا سُكَارَى لِذِي الْبِشَارَه
جَعْلَوْا عِمَارَهْ شُكْراً لِلّهِ
Codasant fel y meddwon wrth glywed y newydd da
Llanwasant y lle â defosiwn, yn ddiolch i Allah
أَيُّهَا الْحَاضِرْ اُذْكُرْ وَذَاكِرْ
إِيَّاكَ تُنْكِرْ حَالَ أَهْلِ اللهِ
O ti sy'n bresennol, cofia ac atgoffa
Gochel rhag gwadu cyflwr pobl Allah
فَسَلِّمْ لَهُمْ فِيمَا عَرَاهُمْ
وَاعْلَمْ أَنَّهُمْ غَابُوْا فِي اللهِ
Ymrodda iddynt yn yr hyn sy'n eu goresgyn
Gwybydd eu bod wedi ymgolli yn Allah
فَالْوَجْدُ بِهِمْ دَاعِيْ يَدْعِيْهِمْ
يَطْرَأْ عَلَيْهِمْ فِيْ ذِكْرِ اللهِ
Canys ecstasi yw'r galwr sy'n eu gwahodd
Gan eu cipio wrth gofio Allah
وَمَنْ لَمْ يَجِدْ فَلْيَتَوَاجَدْ
قَصْداً يَتَعَرَّضْ لِفَضْلِ اللهِ
A'r sawl ni chan ecstasi, ceisied ei ddenu
Gan ymostwng o fwriad i ras Allah
هَكَذَا قَالُوْا وَلِذَا مَالَوْا
وَلَقَدْ غَالُوْا فِي ذِكْرِ اللهِ
Fel hyn y dywedasant, ac am hynny y sigloasant
Gan fynd yn ddi-ffrwyn wrth gofio Allah
حَتَّى قَدْ ظَنَّا مَنْ لَيْسَ مِنَّا
أَنَّا جُنِنَّا بِذِكْرِاللهِ
Hyd nes i'r rhai nad ydynt ohonom dybio
Ein bod wedi ynfydu wrth gofio Allah
هَنِيْئاً لَنَا ثُمَّ بُشْرَانَا
إِنْ كَانَ لَنَا حُمْقٌ فِي اللهِ
Gwyn ein byd, a llawen chwedl i ni
Os yw ein hynfydrwydd yn Allah